Psalms 41

Gweddi am iachâd

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1Mae'r un sy'n garedig at y tlawd wedi ei fendithio'n fawr.
Bydd yr Arglwydd yn ei gadw'n saff pan mae mewn perygl.
2Bydd yr Arglwydd yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd,
A bydd yn profi bendith yn y tir.
Fydd e ddim yn gadael i'w elynion gael eu ffordd.
3Bydd yr Arglwydd yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely,
ac yn ei iacháu yn llwyr o'i afiechyd.
4“O Arglwydd, dangos drugaredd ata i,” meddwn i.
“Iachâ fi. Dw i'n cyfaddef mod i wedi pechu yn dy erbyn di.”
5Mae fy ngelynion yn dweud pethau cas amdana i,
“Pryd mae'n mynd i farw a chael ei anghofio?”
6Mae rhywun yn ymweld â mi, ac yn cymryd arno ei fod yn ffrind;
ond ei fwriad ydy gwneud drwg i mi,
ac ar ôl mynd allan, mae'n lladd arna i.
7Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd,
ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi.
8“Mae'n diodde o afiechyd ofnadwy;
fydd e ddim yn codi o'i wely byth eto.”
9Mae hyd yn oed fy ffrind agos
– yr un roeddwn i'n ei drystio,
yr un fu'n bwyta wrth fy mwrdd i –
wedi troi yn fy erbyn i!
10Felly, O Arglwydd, dangos drugaredd ata i;
gad i mi godi eto, i mi gael talu'n ôl iddyn nhw!
11Ond dw i'n gwybod fy mod i'n dy blesio di:
a fydd y gelyn ddim yn bloeddio ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth.
12Rwyt ti'n fy nghynnal i am fy mod i'n onest gyda ti.
Dw i'n cael aros yn dy gwmni di am byth.
13Ie, bendith ar yr Arglwydd, Duw Israel,
o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb!
Amen ac Amen.
Copyright information for CYM